Gorllewin Cymru a’r cymoedd yw’r rhanbarth gyntaf yn y DU i gael ei rhaglenni Cronfeydd Strwythurol wedi’u mabwysiadu’n gyfreithiol gan yr UE, mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi cyhoeddi.
Bydd hyn yn arwain y ffordd at sicrhau bod cyfanswm o ryw £3 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru rhwng 2007 a 2013.
Mae’r cyhoeddiad, gafodd ei wneud yn ystod lansiad rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, yn golygu bod Cymru yn gallu dechrau rhoi ar waith raglenni Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Dwyrain Cymru. Disgwylir i’r prosiectau cyntaf gael eu cymeradwyo yn hwyrach yn yr Hydref.
Dywedodd Rhodri Morgan: “Rydym nawr mewn sefyllfa i symud yn ein blaenau â chynllun saith mlynedd i barhau â’r gwaith o weddnewid Cymru i fod yn genedl ddeinamig a ffyniannus.
“Yn unol â’r egwyddorion o greu swyddi sgil uchel, cynaladwy yn yr economi wybodaeth sydd wedi eu mynegi yn agendâu Lisbon a Gothenburg, byddwn yn cymryd camau i hybu cyflogaeth lawn gyda swyddi o ansawdd uchel, yn ogystal â helpu i sicrhau bod ein busnesau’n tyfu ac yn ehangu.”
Roedd y lansiad yn canolbwyntio ar greu mwy o swyddi a gwella sgiliau, sef un o rannau allweddol rhaglenni Cronfa Strwythurol 2007-2013. Rhoddwyd sylw hefyd i sut y bydd yn helpu i greu gwell dyfodol i filoedd o bobl yng Nghymru drwy eu helpu i ddod o hyd i waith a gwella’u sgiliau.
‘Pob rhan o’n gwlad’
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones: “Mae’r rhaglen Cymru’n Un sydd wedi’i mabwysiadu gan lywodraeth newydd y Cynulliad yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod pob rhan o’n gwlad yn elwa ar arian Ewropeaidd yn ystod y pedair blynedd nesaf.
“Ein nod yw sicrhau bod Cymru yn parhau i ddatblygu mewn ffordd gystadleuol a chynaliadwy yn yr economi fyd-eang. Rydym am greu swyddi tymor-hir o ansawdd uchel ynghyd â darparu’r amgylchedd iawn i alluogi busnesau i ffynnu ac ehangu.”
Bydd tua £570 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn cael eu sianeli drwy’r rhaglen Gydgyfeirio ar gyfer y Gorllewin a’r Cymoedd.
O dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, caiff £856 miliwn eu darparu i gynorthwyo gweithgareddau fydd yn rhoi hwb i waith ymchwil a datblygu ac arloesi, yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn adfywio cymunedau mwyaf difreintiedig y rhanbarth.
Gydag arian cyfatebol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, bydd y rhaglenni hyn yn creu buddsoddiad o tua £3 biliwn yn y Gorllewin a’r Cymoedd.
Yn dilyn y cytundeb cyfreithiol, dywedodd Comisiynydd yr UE ar gyfer Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal, Vladimir Spidla: “Yn ystod hanner canmlwyddiant Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae’n rhoi pleser mawr i mi weld bod Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn parhau i fuddsoddi yng Nghymru. Diben y Gronfa yw canolbwyntio ar bobl a gwella’u cyfleoedd i ddod o hyd i swyddi.
“Yng Nghymru, bydd y Gronfa yn helpu 250,000 o bobl yn uniongyrchol. Mae’r rhaglen yng Nghymru yn un o’r cyntaf yn yr UE i gael ei mabwysiadu.” [BBC]